P-04-436 : Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i baratoi adroddiad ar Wariant a Refeniw Llywodraeth Cymru.

 

Mae gan yr Alban adroddiad Government Expenditure and Revenue Scotland. Ei nod yw gwella dealltwriaeth y cyhoedd o faterion ariannol drwy ddadansoddi ystadegau ariannol swyddogol Llywodraeth y DU a’r Alban yn fanwl. Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad tebyg fel y gallwn weld gwir sefyllfa ariannol Cymru.

Prif ddeisebydd:  Stuart Evans

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  15 Ionawr 2013

Nifer y llofnodion: 27